Cronfa Deddf yr Eglwys yng Nghymru 2026-2027 Rownd 2

Mae grantiau o hyd at £600 ar gael i sefydliadau lleol â chyfansoddiad (yn cynnwys elusennau cofrestredig, sefydliadau corfforedig elusennol, grwpiau cymunedol sydd wedi meddu ar gyfansoddiad ers mwy na chwe mis, cynghorau tref a chymuned, cwmnïau buddiant cymunedol, mentrau cymdeithasol a grwpiau â gwisg benodol). Gellir ystyried endidau eraill yn ôl disgresiwn ein pane dan arweiniad gwirfoddolwyr.

Rhaid gwario cyllid Rownd 2 rhwng 01/11/2026 a 31/07/2027.

Blaenoriaethau’r grant eleni fydd: 

(Rhaid i brosiectau fodloni un neu ragor o flaenoriaethau’r grant)

  1. Yn berthynol i neu wedi’i leoli mewn adeilad/safle a gynhelir gan eglwys 
  2. Thema dementia
  3. Thema unigrwydd neu ynysigrwydd 
  4. Yn hyrwyddo llesiant 
  5. Yn cefnogi pobl ag anableddau dysgu6. Gweithgareddau cymunedol gan wirfoddolwyr

Mae enghreifftiau o brosiectau a gyllidwyd yn flaenorol i’w gweld yma.

Y dyddiad cau i gyflwyno ceisiadau yw hanner nos ar 30 Medi 2026. Bydd Panel Grantiau Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn asesu’r ceisiadau. Hysbysiad ymgeiswyr a fu’r cais yn llwyddiannus ai peidio erbyn, 30 Hydref 2026.

I wneud cais am y grant, llenwch ffurflen gais ar-lein DVSC (Word) yma.

Am ganllawiau i’ch cynorthwyo i lenwi’r ffurflen gais ar-lein cliciwch yma.

Ar ôl i chi gael mynediad at y ddogfen cliciwch ar Ffeil yn y gornel chwith uchaf a lawrlwythwch i gael eich fersiwn addasadwy.


Manylion Cyswllt

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â DVSC:

E-bost: sectorsupport@dvsc.co.uk

Ffôn: 01824 702 441