Swyddi gwag

Prif Swyddog Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSD)

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sirol Sir Benfro yn chwilio am Brif Swyddog newydd i arwain y sefydliad i’w bennod nesaf, gan hyrwyddo’r sector gwirfoddol ac ysbrydoli cydweithio ar draws y rhanbarth.

A ydych chi’n arweinydd sy’n cael ei arwain gan werthoedd, sy’n meddu ar y weledigaeth a’r deallusrwydd emosiynol i gryfhau cymunedau ledled Sir Ddinbych? Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn chwilio am Brif Swyddog newydd i lywio’r mudiad drwy’r bennod nesaf, gan hyrwyddo’r sector gwirfoddol ac ysbrydoli cydweithredu ar draws y rhanbarth.    

Fel y Cyngor Gwirfoddol Sirol yn Sir Ddinbych, mae CGGSDd yn rhoi cymorth a chefnogaeth i gannoedd o elusennau, mentrau cymdeithasol, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol. Rydym ni’n grymuso sefydliadau lleol o ran gwirfoddoli, cyllido cynaliadwy, llywodraethu da a dylanwadu ac ymgysylltu.   

Mae hon yn swydd uwch arweinydd, lle byddwch yn llywio cyfeiriad ac yn ysbrydoli tîm ymroddedig, yn cynrychioli llais y sector yn lleol ac yn genedlaethol ac yn datblygu strategaethau i sicrhau cynaliadwyedd, arloesi a thwf. Byddwch hefyd yn llunio partneriaethau gwirioneddol ag aelodau, cyllidwyr a phartneriaid statudol, gan sicrhau bod CGGSDd yn parhau i gael effaith go iawn.    

Os ydych chi’n meddwl yn strategol, yn gyfathrebwr eithriadol ac, yn bennaf, yn arweinydd ar sail gwerthoedd sydd wedi ymrwymo i hybu cymunedau cynhwysol, gwydn, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.  If you’re a strategic thinker, an exceptional communicator, and above all a values-driven leader committed to inclusive, resilient communities, we’d love to hear from you. 


Y dyddiad cau yw hanner nos 8fed Ionawr.

Cynhelir y cyfweliadau yn ddiweddarach ym mis Ionawr. Cynhelir cyfweliadau wyneb yn wyneb yn Rhuthun.

Gweler yr atodiad:


Er mwyn ymgeisio am y swydd bydd angen i chi anfon yr atodiadau isod trwy neges e-bost at tom@dvsc.co.uk

Ein nod fydd cysylltu â phawb sy’n gwneud cais i’w hysbysu a ydych wedi cyrraedd y rhestr fer. Os byddwch chi ar y rhestr byddwn yn esbonio ein proses ddethol i chi ar y pwynt hynny.   

Os ydych chi’n penderfynu cyflwyno cais, yna pob lwc i chi ac edrychaf ymlaen at glywed am yr hyn y gallech chi ei gynnig i Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn y swydd hon!

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn recriwtio

Hours: 30 Hours a Week

Salary: £30,363.06 Salary per annum (pro rata) plus 8% pension contribution [ACTUAL SALARY: £24,290.45 per annum]

Closing Date: 14/08/2026

Interview Date: 02/09/2026

Start Date: 01/10/2026

Read More

Rhowch eich enw ar ein rhestr bostio

Rwy'n cytuno y gellir defnyddio fy manylion i anfon diweddariadau ynghylch gweithgareddau CGGSDd ataf