Rhaglen Grant Cronfa Allweddol
Dyfarnwyd £2,133,867 i DVSC gan Gyngor Sir Ddinbych i ddarparu pecyn cymorth i sefydliadau’r trydydd sector i wella eu gwydnwch a’u cynaliadwyedd drwy Gronfa Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU (SPF).
Lansiwyd Cronfa Allweddol DVSC ar 1 Medi 2023, gan gynnig grantiau strategol ar gyfer buddsoddiadau i wella cynaliadwyedd a gwydnwch sefydliadau’r trydydd sector ar draws Sir Ddinbych. Aseswyd effaith yr elfen hon o’r pecyn cymorth gan ddefnyddio gwerthusiadau cychwynnol ac wedi’r grant i’n helpu i ddeall yr angen lleol a pha mor fuddiol oedd y grantiau.
Trosolwg
- £1,252,164 wedi’i ddosbarthu dros dair rownd.
- Sicrhawyd dosbarthiad teg gan banel o 11 gwirfoddolwr lleol.
- 41% o’r derbynwyr yn cael eu harwain gan wirfoddolwyr yn llwyr.
- 72% gydag incwm blynyddol o dan £100,000.
- 82% wedi adrodd ar arbedion mewn cost ac amser o ganlyniad i’r grant.
- Dyfarnwyd 22 o’r grantiau ar gyfer gwelliannau cyfalaf gan gynnwys seilwaith, offer, ac uwchraddio adeiladau.
- Dangosodd astudiaethau achos gynnydd mewn gallu gwasanaethu ac effeithlonrwydd.
Grwpiau dan arweiniad gwirfoddolwyr
Dangosodd grwpiau dan arweiniad gwirfoddolwyr ffynonellau incwm mwy amrywiol. Mae’r graff hwn yn dangos lledaeniad ffynonellau incwm sefydliadau dan arweiniad staff cyflogedig o gymharu â’r rhai dan arweiniad gwirfoddolwyr:

Gwersi a Ddysgwyd
- Gwellodd cymorth cyn-ymgeisio a ddarparwyd gan DVSC allu’r grŵp i gael mynediad at y grant
- Arweiniodd hyfforddiant am ddim at welliannau pendant yn y ddarpariaeth gwasanaethau ac adrodd effaith.
Rydym yn hynod ddiolchgar i Gyngor Sir Ddinbych am ein galluogi i fod yn rhan o ddarparu arian SPF, a wnaeth wir wahaniaeth i bobl Sir Ddinbych.

