Mae CGGSDd yn fudiad aelodaeth ac os ydych yn fudiad Trydydd Sector sy’n gweithredu yn Sir Ddinbych, rydym yn gobeithio y byddwch yn ystyried ymuno â ni a bod yn rhan o’n dylanwad a’n cefnogaeth ar y cyd.
Mae aelodaeth AM DDIM am nawr ac yn y dyfodol
Mae ein haelodaeth yn rhoi:
- Hyrwyddo Swyddi Gwag, Digwyddiadau, Hyfforddiant a chyfleoedd marchnata eraill trwy Wefan CGGSDd, Bwletin CGGSDd, Sbotolau ar Ymgyrch CGGSDd a Chyfryngau Cymdeithasol
- Y gallu i bleidleisio yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar faterion yn ymwneud â strwythur a strategaeth CGGSDd
- Llogi ystafell gyfarfod am bris gostyngol yng Nghanolfan Naylor Leyland
Bod yn rhan o grwpiau ffocws Arbenigol i ddylanwadu ar ddyfodol y Trydydd Sector

