Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia

Rydym yn rhedeg prosiect Dementia Ymwybodol Sir Ddinbych i gefnogi cymunedau lleol ar draws y sir i weithio gyda’i gilydd i sicrhau bod pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr yn cael mynediad at y gwasanaethau a’r gefnogaeth bersonol sydd eu hangen arnynt.

  • Rhwydwaith Cymunedol Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia – Nod y Rhwydwaith hwn yw arwain a hwyluso mentrau i wella ymwybyddiaeth o Ddementia yn Sir Ddinbych yn rhagweithiol. Sesiynau ar-lein bob yn ail fis gyda siaradwyr diddorol a diweddariadau gan grwpiau gweithredu a chymunedau lleol sy’n gyfeillgar i ddementia. Mae croeso i bawb gymryd rhan.
  • Rydym yn darparu sesiynau Gwybodaeth Cyfeillion Dementia AM DDIM, a gynhelir gan Rebecca Bowcott. Byddwch yn dysgu mwy am ddementia, sut y gall effeithio ar rywun a beth allwch chi ei wneud i helpu a gwneud gwahaniaeth. Cynhelir y sesiynau ar-lein neu wyneb yn wyneb.
  • Cymunedau Cyfeillgar i Ddementia a Grwpiau Gweithredu Lleol Dementia – rydym yn cynnig cefnogaeth i gymunedau lleol sefydlu grŵp lleol i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth ar gyfer pobl sy’n byw gyda Dementia, eu gofalwyr a’u teuluoedd ac ennill cydnabyddiaeth o dan gynllun newydd Cymunedau sy’n Ystyriol o Ddementia Gogledd Cymru.
  • Grant Cymunedol Sir Ddinbych Ymwybodol o Ddementia – cyllid penodol ar gyfer grwpiau lleol ac unigolion i ddarparu cyfleoedd a digwyddiadau yn eu cymunedau lleol sy’n codi ymwybyddiaeth o ddementia.
  • Hyfforddiant Dementia – mae amrywiaeth o hyfforddiant rhad ac am ddim yn digwydd drwy gydol y flwyddyn.
  • Adnoddau ar gael i bobl sy’n byw gyda Dementia fel clociau, byrddau gwyn, cynorthwywyr digidol a llyfrau.
  • Digwyddiadau codi ymwybyddiaeth penodol, er enghraifft dangosiadau “Byw’n Well gyda Dementia”.


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â: Rebecca Bowcott

Swyddog Lles Cymunedol becky@dvsc.co.uk

Rhowch eich enw ar ein rhestr bostio

Rwy'n cytuno y gellir defnyddio fy manylion i anfon diweddariadau ynghylch gweithgareddau CGGSDd ataf