Amdanom ni

Beth yw Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych?

Elusen leol annibynnol yw Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych sy’n cefnogi datblygiad y Trydydd Sector yn y sir – elusennau, mentrau cymdeithasol, mudiadau gwirfoddol, grwpiau cymunedol, cydweithredfeydd a mudiadau llawr gwlad eraill sy’n gweithredu’n wirfoddol er budd pobl Sir Ddinbych. Mae ein gwasanaethau ni’n cynnwys:

  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ynghylch cyllid, llywodraethu a materion allweddol eraill 
  • Hyrwyddo a chefnogi gwirfoddolwyr a rheoli gwirfoddoli, rhannu arferion da a darparu hyfforddiant a phrosiectau megis Drysau Agored a Bydis Digidol 
  • Cynorthwyo mudiadau trydydd sector i ymgysylltu â’r sector cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill er mwyn dylanwadu ar bolisi, cyllid a gwasanaethau a sicrhau cyfleu a chynrychioli anghenion cymunedau  
  • Yn benodol, gweithio mewn partneriaeth ar themâu llesiant, yn cynnwys cymorth i’r rhai sy’n byw â dementia 
  • Adnabod materion lleol a chynrychioli anghenion y gymuned gerbron y gwneuthurwyr polisi
  • Gweithio ar y cyd ag asiantaethau eraill i ddatblygu prosiectau newydd fel menter gymdeithasol Neuadd y Farchnad yn Rhuthun 

Darllenwch ein llyfryn yma

Rhowch eich enw ar ein rhestr bostio

Rwy'n cytuno y gellir defnyddio fy manylion i anfon diweddariadau ynghylch gweithgareddau CGGSDd ataf