Mae CGGSDd yn cynnig cyngor ac arweiniad 1 i 1 i fudiadau Trydydd Sector i gefnogi cyllid a chynaliadwyedd.
Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau i roi arweiniad ar grantiau addas, cymhwyster a meini prawf ymgeisio, i’ch galluogi i wneud cais am gyllid i gefnogi eich prosiectau.
Fel rhan o’r cymorth hwn, rydym yn rhoi help I gofrestru a defnyddio gwefan Cyllido Cymru: https://funding.cymru/cy/ sy’n beiriant chwilio ar-lein am ddim ar gyfer cyllid. Gallwch chwilio cannoedd o gyfleoedd cyllid grant a benthyciad o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. O grantiau bach i brosiectau cyfalaf mawr, gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r cyllid sydd ei angen arnoch.
Rydym hefyd yn dosbarthu grantiau gan gynnwys:
- Deddf yr Eglwys Gymreig
- Grant dan Arweiniad Pobl Ifanc
- Grant Cymunedol Ymwybodol o Ddementia
Gallwch weld yr holl fanylion am grantiau ar ein gwefan: www.dvsc.co.uk/cy/grants/
Rydym yn cynnal Ffeiriau Ariannu ar draws y Sir 3 gwaith y flwyddyn.
Mae ffeiriau ariannu galw heibio CGGSDd yn rhoi’r cyfle i fudiadau ymgysylltu’n uniongyrchol â chyllidwyr, gan eich galluogi i dderbyn cyngor a chefnogaeth arbenigol ar gyfer eich prosiect a’ch anghenion ariannu.
Rydym yn darparu sesiynau “Cwrdd â’r Cyllidwr”.
Mae’r rhain yn ddigwyddiadau lle gall sefydliadau sy’n ceisio cyllid gysylltu â chyllidwyr posibl. Mae’n rhoi cyfle i ddysgu am grantiau sydd ar gael, meini prawf ariannu, a phrosesau ymgeisio tra’n caniatáu i fynychwyr ofyn cwestiynau, cael mewnwelediad, a sefydlu perthynas â chyrff ariannu.

Am ragor o wybodaeth
E-bost: sectorsupport@dvsc.co.uk

