Llywodraethu Da

Mae CGGSDd yn cynnig sbectrwm eang o gyngor a chefnogaeth i’r Trydydd Sector i sicrhau llywodraethu da. Mae llywodraethu yn cwmpasu ystod eang o themâu gan gynnwys pa strwythur cyfreithiol i’w ddewis, sut i recriwtio aelodau bwrdd, gweithio gyda thryloywder ac ymddiriedaeth; a sut i dyfu, cynnal ac adrodd ar eich effaith.

Rydym yn cynnig cymorth pwrpasol, cyrsiau hyfforddi a mynediad at ganllawiau ar-lein sydd i’w gweld ar yr Hyb Gwybodaeth: https://knowledgehub.cymru/cy/

Adeiladwch eich sylfeini

Mae treulio amser ar gynllunio a chael y strwythur cywir yn ei le er mwyn i’ch sefydliad allu gweithredu a thyfu, yn hollbwysig. Os nad ydych chi’n gwybod sut i ddechrau, gallwn ni helpu. Gallwn hefyd eich cynghori ar sut i recriwtio’r bobl cywir – staff, gwirfoddolwyr ac aelodau bwrdd.

Adeiladwch eich gwytnwch

Mae dysgu bod yn hyblyg ac arloesol i ymateb i newidiadau sydyn yn eich amgylchedd yn bwysicach nag erioed. Yn greiddiol i hyn mae meithrin perthnasoedd a chysylltiadau cryf. Gallwn eich cefnogi.

Adeiladwch eich llais cymunedol

Gallwn eich cynorthwyo i ddeall a mesur yr effaith yr hoffech ei chael ar unigolion a chymunedau. Gallwn hefyd roi cyngor ar sut i ddatblygu eich brand a llunio strategaeth gyfathrebu a marchnata.

Adeiladwch eich cynaliadwyedd

Gallwn eich helpu i gael cydbwysedd rhwng effaith gymdeithasol ac ennill digon i gynnal eich sefydliad. Gallwn roi cyngor ar ffynonellau incwm a sut i reoli llif arian


Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Ali Carter – Rheolwr Menter a Buddsoddi E-bost: ali@dvsc.co.uk

Rhowch eich enw ar ein rhestr bostio

Rwy'n cytuno y gellir defnyddio fy manylion i anfon diweddariadau ynghylch gweithgareddau CGGSDd ataf