Ymgysylltu a Dylanwadu

Mae CGGSDd yn elusen wedi’i seilio ar aelodaeth. Rhan o’n cenhadaeth a’n rôl yw bod yn llais dylanwadol yn Sir Ddinbych a Gogledd Cymru.

Mae CGGSDd yn aelod o bartneriaeth Cefnogi Trydydd Sector Cymru gyfan. Rydym yn arddangos gwerth ac arbenigedd sefydliadau Trydydd Sector gyda phartneriaid a rhaglenni’r Sector Cyhoeddus.

Rydym yn hyrwyddo’r Trydydd Sector fel partner gweithredol wrth ymgysylltu â chymunedau a thrigolion Sir Ddinbych, a’n rôl wrth ddylanwadu ar bolisi, cynllunio gwasanaethau a chomisiynu.

Rydym yn gweithio gyda Grŵp Dylanwadu Trydydd Sector Sir Ddinbych i gynghori ar hyn. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys arweinwyr Trydydd Sector profiadol sy’n dod at ei gilydd i godi materion a chyfleoedd gyda’n partneriaid yn y Sector Cyhoeddus.

Fel y corff aelodaeth ar gyfer gwirfoddolwyr, grwpiau gwirfoddol a chymunedol, mudiadau trydydd sector a mentrau cymdeithasol yn Sir Ddinbych, mae ymgysylltu a dylanwadu yn rhan greiddiol o’r hyn rydym ni’n ei wneud. Rydym ni’n derbyn cyllid craidd gan Lywodraeth Cymru i ymgysylltu gydag a dylanwadu ar ein partneriaid gwasanaethau cyhoeddus ar ran y trydydd sector. Mae CGGSDd yn darparu ystod o gyfleoedd i ymgysylltu â ni, yn cynnwys:

  • Rhwydwaith Gwirfoddolwyr Trydydd Sector Sir Ddinbych
  • Rhwydwaith Llesiant Sir Ddinbych
  • Rhwydwaith Ymwybyddiaeth Dementia Sir Ddinbych

Os nad ydych chi’n aelod ar hyn o bryd, ymaelodwch â ni ac ychwanegu eich llais chi at y drafodaeth.

Rhowch eich enw ar ein rhestr bostio

Rwy'n cytuno y gellir defnyddio fy manylion i anfon diweddariadau ynghylch gweithgareddau CGGSDd ataf