
Mae Mudiad 2025 wedi dod â phartneriaid o bob rhan o ogledd Cymru ynghyd drwy fenter Croeso Cynnes/Warm Welcome i gyflwyno’r prosiect hwn. Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn dyrannu cyllid Llywodraeth Cymru i elusennau a Grwpiau Cymunedol yn Sir Ddinbych, drwy gynllun grantiau, i helpu i gydlynu a darparu’r gweithgareddau i gefnogi’r prosiect hwn.
Bydd y lleoliadau yn llefydd mewn cymunedau lleol lle gall pobl gael awyrgylch diogel cynnes, a chroesawgar yn ystod y dydd. Fe fydd yna amrywiaeth o gynigion, yn dibynnu ar anghenion ymwelwyr, o luniaeth syml a rhywle i ymlacio, drwodd i brydau poeth, cyngor a gwybodaeth am sut i arbed ynni a chadw’n gynnes; cynigion cynhwysiant digidol a gweithgareddau cymdeithasol. Mae gwefan Croeso Cynnes ar gael yma ac mae wedi’i sefydlu i gyfeirio preswylwyr Sir Ddinbych i’w lleoliadau croeso cynnes agosaf.
Cyflwyniad
Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £1m ar draws Cymru i gefnogi prosiectau canolfannau Croeso Cynnes i roi cymorth i bobl mewn perygl o fod mewn tlodi tanwydd y gaeaf hwn. Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd) yn gweithio â Chyngor Sir Ddinbych i ddosbarthu cyfran grant Sir Ddinbych.
Mae’r gronfa hon wedi’i hanelu at gefnogi mudiadau trydydd sector lleol sy’n cymryd rhan yn y fenter Croeso Cynnes y gaeaf hwn yn Sir Ddinbych.
Dylai’r grant gefnogi mudiadau Trydydd Sector i ehangu eu gallu i groesawu pobl a darparu gweithgareddau ychwanegol. Edrychwch ar y Meini Prawf isod am ragor o arweiniad.
Os nad ydych wedi cofrestru eich mudiad â’r prosiect Croeso Cynnes, anfonwch neges e-bost at catherine.m.taylor@sirddinbych.gov.uk ynteu tom@dvsc.co.uk cyn gwneud cais am y grant hwn.
Dylai’r holl brosiectau sy’n derbyn cyllid grant gael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2023.
Meini Prawf y Grant
Mae grantiau ar gael i sefydliadau â chyfansoddiad lleol (gan gynnwys elusennau cofrestredig, sefydliadau elusennol corfforedig, grwpiau cymunedol sydd â chyfansoddiad ers mwy na 6 mis, cynghorau tref neu gymuned, cwmnïau buddiant cymunedol, mentrau cymdeithasol, a grwpiau mewn lifrai). Gellir ystyried endidau eraill yn ôl disgresiwn ein Panel Grantiau.
Dylid defnyddio’r grant i gefnogi’r meysydd blaenoriaeth allweddol a ganlyn (dylech eu trin fel awgrymiadau ac nid rhestr holl gynhwysol):

Rydym yn gweithredu proses gwneud penderfyniadau grant cyflym gyda cheisiadau yn cael eu hystyried ar sail dreigl hyd nes y bydd arian yn cael ei ddosbarthu. Byddwch yn clywed gennym o fewn 14 diwrnod o gyflwyno os yw eich cais wedi bod yn llwyddiannus. Gwnewch gais cyn gynted â phosibl i sicrhau bod eich menter neu brosiect yn derbyn cyllid!
I wneud cais am y grant, llenwch gais ar-lein CGGSDd yma.
Unwaith y byddwch wedi cyrchu’r ddogfen, cliciwch ar Ffeil yn y gornel chwith uchaf a’i lawrlwytho i gael eich fersiwn addasadwy.
Os hoffech gyngor ac arweiniad ar y grant uchod cysylltwch ag aelod Prif Swyddog CGGSDd, tom@dvsc.co.uk

