Ffair Ariannu Ruthun

Bydd Chyngor Tref Ruthun ar y cyd â Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych (CGGSDd) yn cynnal Ffair Ariannu

Ddydd Iau Medi 22 rhwng 11yb – 2yp yn Yr Hen Lys.

Dewch draw i ymuno â ni i ddarganfod mwy am y gwahanol grantiau sydd ar gael yn yr ardal leol a chyfleoedd i drafod y grantiau hyn gyda’r cyllidwyr.

Bydd y digwyddiad yma yn cael ei gynnal fel digwyddiad hybrid gyda rhai cyllidwyr yno’n bersonol i chi sgwrsio â nhw a bydd cyllidwyr eraill yn mynychu’r sesiwn trwy gyfrwng cyflwyniadau Zoom 30 munud a byddwch yn gallu archebu lle yn fuan drwy ein tudalen Eventbrite ar gyfer y cyflwyniadau yma.

Os ydych yn fudiad neu’n grŵp cymunedol lleol a hoffai hyrwyddo eich grantiau presennol neu grantiau fydd yn cymeryd lle yn y dyfodol yn y digwyddiad, cysylltwch â ni i gadw lle: office@dvsc.co.uk neu ffoniwch 01824 702 441. Os na allwch fynychu, mae croeso i chi anfon taflenni, adnoddau ac ati y gallwn eu hyrwyddo ar eich rhan.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â CGGSDd ar office@dvsc.co.uk neu ffoniwch 01824 702441

Rhowch eich enw ar ein rhestr bostio

Rwy'n cytuno y gellir defnyddio fy manylion i anfon diweddariadau ynghylch gweithgareddau CGGSDd ataf