Canolfan Naylor Leyland a Neuadd y Farchnad, Rhuthun
GOFALWR
- Rhan-amser / Achlysurol a gallai fod yn addas ar sail bod yn hunangyflogedig
- Cychwyn ar Unwaith
- Rhaid byw o fewn 2 filltir i Rhuthun, gyda cludiant eich hun.
- Cyflog Byw fesul Awr
- Angen DBS
- Man parcio ar y safle ar gael
Oriau: Mae’r swydd hon yn hyblyg i ddarparu ar gyfer anghenion y ganolfan a Neuadd y Farchnad. Mae hon yn swydd ran-amser / achlysurol a bydd nifer yr oriau a weithir yn dibynnu ar y gosodiadau a archebir ar draws bob wythnos a’u hyd.
Dyddiau / Amseroedd mae’r Ganolfan ar Agor:
Dydd Llun i ddydd Sul
Yn ystod y dydd: 8yb i 4yp
Nosweithiau: 4yp i 11yh
Ymhlith y dyletswyddau mae:
- Holl ddyletswyddau gofalwr, glanhau a chynnal a chadw cyffredinol ac i sicrhau safonau hylendid o ansawdd uchel yn y ganolfan.
- Sicrhau bod y ganolfan yn cael ei hagor yn ôl yr angen, ei chloi ar ôl ei defnyddio ac i oruchwylio glendid cyffredinol yr adeilad bob amser i safon uchel.
- Cynorthwyo pob huriwr gydag unrhyw ymholiadau tra ar y safle a sicrhau bod y ganolfan yn gweithredu’n hwylus.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn sicrhau glendid, diogelwch y ganolfan a’r maes parcio yn ystod y cyfnod gosod. Bydd yn cynnwys cefnogi gosod a thynnu stondinau marchnad yn Neuadd y Farchnad. Bydd hyn yn cynnwys glanhau ysgafn o’r ystafelloedd a’r cyfleusterau a ddefnyddir ar ôl pob gosod yn ôl yr angen.
Chi fydd y pwynt cyswllt canolog ar gyfer hurwyr ac ymwelwyr sy’n defnyddio’r cyfleuster, gan ddatrys unrhyw broblemau os byddant yn codi neu gysylltu â staff perthnasol i fynd i’r afael ag unrhyw broblemau. Mae dull cwrtais a phroffesiynol yn hanfodol wrth ddelio â chwsmeriaid.
Ar ddiwedd pob archeb, byddech chi’n cloi’r safle gan sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel ac wedi’i amddiffyn gan y system larwm.
Bydd y rôl am 10 awr yr wythnos i ddechrau gan gynnwys dydd Sadwrn.
I Wneud Cais: Anfonwch CV cyfredol, gan restru’r holl brofiadau a sgiliau blaenorol sy’n berthnasol i’r rôl hon at tom@dvsc.co.uk. Cofiwch gynnwys manylion dau ganolwr hefyd.
Dyddiad cau y Cais: 21 Chwefror 2022 Cyfweliadau: 25 Chwefror 2022

