Grant Croeso Cynnes 2022-2023

Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn gweithio gyda Chyngor Sir Ddinbych i ddosbarthu cyllid sydd ar gael o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn Sir Ddinbych.
 

Bydd y cyllid yn cefnogi prosiectau fel Croeso Cynnes/Canolfannau Clyd i gefnogi pobl mewn perygl o dlodi tanwydd a chost parhaus argyfwng costau byw.
 

Bydd y lleoliadau yn llefydd mewn cymunedau lleol lle gall pobl gael awyrgylch diogel cynnes, a chroesawgar yn ystod y dydd. Fe fydd yna amrywiaeth o gynigion, yn dibynnu ar anghenion ymwelwyr, o luniaeth syml a rhywle i ymlacio, drwodd i brydau poeth, cyngor a gwybodaeth am sut i arbed ynni a chadw’n gynnes; cynigion cynhwysiant digidol a gweithgareddau cymdeithasol. Mae gwefan Croeso Cynnes ar gael yma ac mae wedi’i sefydlu i gyfeirio preswylwyr Sir Ddinbych i’w lleoliadau croeso cynnes agosaf.
 

Nod y gronfa hon yw cefnogi sefydliadau’r trydydd sector sydd wedi’u lleoli’n lleol sy’n cymryd rhan yn y fenter Croeso Cynnes yn Sir Ddinbych i ymestyn eu gallu i groesawu pobl i mewn a darparu gweithgareddau ychwanegol. Gweler y Meini Prawf isod am ganllawiau.
 

Mae grantiau o hyd at £5,000 ar gael. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 17 Chwefror 2023. Dylid cwblhau bob prosiect a ariennir gan grantiau erbyn diwedd mis Mawrth 2023.

Gall ymgeiswyr blaenorol wneud cais am y cyllid i ddarparu digwyddiadau / gweithgareddau ychwanegol.

Meini Prawf y Grant

Mae grantiau ar gael i sefydliadau â chyfansoddiad lleol (gan gynnwys elusennau cofrestredig, sefydliadau elusennol corfforedig, grwpiau cymunedol sydd â chyfansoddiad ers mwy na 6 mis, cynghorau tref neu gymuned, cwmnïau buddiant cymunedol, mentrau cymdeithasol, a grwpiau mewn lifrai). Gellir ystyried endidau eraill yn ôl disgresiwn ein Panel Grantiau.

Dylid defnyddio’r grant i gefnogi’r meysydd blaenoriaeth allweddol a ganlyn (dylech eu trin fel awgrymiadau ac nid rhestr holl gynhwysol):

Sut i wneud cais

I wneud cais am y grant, llenwch gais ar-lein CGGSDd yma. 

Unwaith y byddwch wedi cyrchu’r ddogfen, cliciwch ar Ffeil yn y gornel chwith uchaf a’i lawrlwytho i gael eich fersiwn addasadwy. 

Os hoffech gyngor ac arweiniad ar y grant uchod cysylltwch ag aelod Cymorth Sector  CGGSDd, sectorsupport@dvsc.co.uk