Bydd grantiau o hyd at £5,000 ar gael ar gyfer cyllid REFENIW a CHYFALAF ar gyfer yr isod:
- Sefydliadau lleol â chyfansoddiad (yn cynnwys elusennau cofrestredig, sefydliadau corfforedig elusennol, grwpiau cymunedol, cynghorau tref neu gymuned, cwmnïau buddiant cymunedol, mentrau cymdeithasol, eglwysi a grwpiau â gwisg benodol).
- Busnesau bach cysylltiedig â bwyd sy’n gweithredu yn Sir Ddinbych (gyda llai na 50 o gyflogeion).
- Gall grwpiau heb gyfansoddiad wneud cais am hyd at £1,000 yn unig.
- Timau awdurdod lleol yn Sir Ddinbych.
Mae’r Pecyn Cyllid Cymorth Trechu Tlodi wedi’I rannu yn ddwy brif ffrwd cyllido (y cyfeirir atynt fel Colofnau), ynghyd â chronfeydd cyllido hyblyg ychwanegol. Rhaid i’r cyllid gefnogi’r nod cyffredinol o leihau tlodi a chynorthwyo pobl I gael cymorth.
Colofn 1: Atal tlodi ar lefel ehangach
Pwrpas: Atal pobl rhag mynd I dlodi a helpu I lunio gwydnwch tymor hir.
Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer:
- Hybiau cymunedol a mannau diogel sy’n cynnig cyngor a chymorth.
- Cyngor ynghylch costau byw, dyledion, arian, tlodi tanwydd a thlodi bwyd.
- Cymorth gydag iechyd a llesiant.
- Gweithgareddau cynhwysiant digidol.
- Datblygu dewisiadau amgen i fanciau bwyd, fel cynlluniau arian parod yn gyntaf, talebau neu gardiau arian.
- Cynyddu capasiti’r gymuned, profi dulliau newydd a datblygu seilwaith sy’n cefnogi atal tlodi.
Prif ffocws: Ymyrraeth gynnar, atal argyfwng a lleihau dibyniaeth mynych ar gymorth brys.
Colofn 2: Cymorth Bwyd Brys
Pwrpas: Cryfhau’r cymorth bwyd lleol I bobl sy’n wynebu tlodi bwyd wrth helpu eu cysylltu â gwasanaethau cymorth ehangach.
Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer:
- Banciau bwyd, pantrioedd bwyd, archfarchnadoedd cymdeithasol a chaffis cymunedol.
- Clybiau cinio a dosbarthiadau coginio yn y gymuned.
- Prynu bwyd ychwanegol a nwyddau hanfodol.
- Gweithgareddau allgymorth i gyrraedd cymunedau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.
- Hyfforddiant i wirfoddolwyr.
- Hybiau cymunedol sy’n cyfuno darpariaeth bwyd gyda chyngor ynghylch lles, tai ac arian.
Prif ffocws: Diwallu anghenion bwyd ar unwaith wrth gynorthwyo pobl i fanteisio ar y cymorth sy’n mynd i’r afael â’r hyn sy’n achosi tlodi bwyd.
Cyfyngiad pwysig: Ni all y cyllid hwn fod y brif ffynhonnell cyllido’r gwasanaeth neu’r cyflenwad bwyd.
Cyllid cyfalaf
Pwrpas: Cyllido offer, cyfleusterau a seilwaith sy’n cefnogi atal tlodi neu ddarparu bwyd brys.
Mae’r enghreifftiau’n cynnwys:
- Oergelloedd, rhewgelloedd, offer coginio a chyfleusterau storio.
- Offer ar gyfer prosiectau tyfu bwyd a dosbarthu bwyd.
- Seilwaith sy’n cefnogi partneriaethau bwyd lleol a phrosiectau bwyd cymunedol.
- Gwelliannau i fannau cymunedol lle cynigir cyngor ynghylch costau byw, cyngor arian a chymorth gyda phlant mewn tlodi.
Yn achos cyllid cyfalaf ar gyfer offer y mae angen ei osod, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o berchnogaeth neu brydles yr adeilad am o leiaf y tair blynedd nesaf.
Gellir rhoi pwysiad ychwanegol potensial i geisiadau partneriaeth / cydweithredu.
Gellir gwario’r cyllid grant rhwng 01/12/2026 a 31/05/2027, ac ni ellir gwneud cais am gyllid ôl-weithredol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos ar Dydd Iau 12 Tachwedd 2026. Bydd Panel Grantiau Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych yn asesu’r ceisiadau. Hysbysir yr ymgeiswyr am y canlyniad erbyn 1 Rhagfyr 2026.

