Manteision Aelodaeth
Wrth ddod yn Aelodau o CGGSDd bydd eich mudiad yn:
- Cael yr hawl i gyfrannu'n llawn yn y broses o gynllunio gwaith y Cyngor
- Gallu manteisio ar gyngor cyfreithiol/cyffredinol ar faterion o bwys i fudiadau gwirfoddol
- Cael y cyfle i gyfarfod â chynrychiolwyr o fudiadau eraill gyda'r un diddordebau
- Derbyn gwahoddiadau i gyrsiau/seminarau sy'n gymwys i'ch mudiad; cyrsiau a drefnir gan GGSDd a mudiadau eraill, gyda gostyngiad yn y pris
- Derbyn copi rhad ac am ddim chwe gwaith y flwyddyn o'r cyhoeddiad
- Derbyn gwahoddiad i Gyfarfod Blynyddol CGGSDd
Deddf Diogelu Data 1998: Cedwir gwybodaeth aelodaeth ar gyfrifiadur gan CGGSDd. Mae gwybodaeth bersonol yn cael ei gyfyngu i enwau, teitlau, cyfeiriadau, rhifau ffôn a mudiadau. Bydd yr wybodaeth yma yn cael ei ddefnyddio gan CGGSDd i bwrpas gweinyddol ac wrth ymateb i ymholiadau o'r sector gwirfoddol ac eraill sy'n ymwneud â'r sector gwirfoddol.
Gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor
Gwybodaeth:
- Gweithgarwch gwirfoddol yn yr ardal
- Asiantaethau statudol lleol
- Cyfarpar, cyfleusterau a mannau cyfarfod lleol
- Mae cylchlythyr yn cael ei gyhoeddi bob dau fis yn cynnwys gwybodaeth briodol i'r sector gwirfoddol.
Cyngor a gwybodaeth am ariannu:
- Manylion am ffynonellau priodol/gwasanaeth 'Funderfinder' ar gyfrifiadur/sut i gwblhau ceisiadau
- Cyrsiau hyfforddi/seminarau gwybodaeth
Trefnu/cyfeirio aelodau at gyrsiau hyfforddi am bris rhesymol:
- Pynciau yn cynnwys: cyfrifon a chadw llyfrau (SORPS), gweithio gyda gwirfoddolwyr, aterion rheolaeth a chyfreithiol, sgiliau pwyllgor, gwirfoddoli, cydraddoldeb a sgiliau gweinyddol ayb.
Rheoloaeth a chyngor cyfreithiol:
- Cyfraith elusennol/gwaith a dyletswyddau ymddiriedolwyr/cyfansoddiadau
- Rheolaeth gyllidol a gofynion cyfrifon
- Recriwtio a chyflogi gweithwyr a thermau ac amodau gwaith
- Cyfraith cyflogaeth
- Rheoli gwirfoddolwyr
- Cydraddoldeb
- Materion yswiriant
- Cynlluniau iaith Gymraeg
Cynrychioli a gweithio ar y cyd:
- Adnabod materion sydd yn peri pryder i fudiadau mewn aelodaeth
- Cyfleu'r pryderon yma i'r rhai sydd yn gwneud penderfyniadau a gweithio ar y cyd i
- Gyflawni canlyniadau effeithiol
- Sicrhau fod y sector gwirfoddol yn effeithiol mewn cyd gynllunio
Mentrau yn y sector gwirfoddol:
- Cychwyn prosiectau i lenwi bylchau mewn gwasanaethau
Gwirfoddoli:
- Gwasanaeth biwro gwirfoddoli/recriwtio a lleoli gwirfoddolwyr
Gwasanaethau ymarferol
- Teipio/llungopio/printio
- Gwasanaeth cyflogau
- Gwasanaeth cyfieithu
Ffurflen Aelodaeth 2008/2009