In Associatioin With

GRANTIAU DAN ARWEINIAID POBL IFANC - COMISIWN RUSSELL
Nod cynllun Grantiau Dan Arweiniad Pobl Ifanc – Comisiwn Russell yw cefnogi ystod o weithgareddau a phrosiectau gwirfoddoli bach, a gynhelir ac a arweinir gan bobl ifanc, â’r ceisiadau hynny’n cael eu dewis a’u hargymell gan banel o bobl ifanc 16-25 oed.
Bydd pob canolfan wirfoddoli’n gyfrifol am rannu’r arian drwy gyfrwng cynghorydd gwirfoddolwyr ifanc, a fydd yn gweithio â phanel o bobl ifanc.
Mae Grantiau Dan Arweiniad Pobl Ifanc – Comisiwn Russell hefyd yn anelu at roi blaenoriaeth i ddarparu cyfleoedd gydag ystod eang o bobl ifanc (16—25 oed), ac ar eu cyfer, ac yn benodol:
CANLLAWIAU POBOL IFANC COMISIWN RUSSELL
FFURFLEN GAIS POBOL IFANC COMISIWN RUSSELL
GRANT CYNALADWYEDD DAN 11 2010/2011
Mae Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych [CGGSDd] yn gweinyddu’r Cynllun Grantiau Bach Dan 11, unwaith eto eleni, ar ran Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir Ddinbych.
Eleni fe hoffem i ymgeiswyr sydd â mynediad i DG gwblhau copi electronig o’r ffurflen gais. Gallwch sicrhau ffurflen isod neu oddiwrth wefan www.denbighshire.gov.uk/fis. Mae’r matrics sgorio a fydd yn cael ei ddefnyddio gan y panel dyrannu hefyd ar gael ar y gwefannau yma. Dylech e-bostio y ffurflen yn ôl i mi - emyr@dvsc.co.uk cyn y dyddiad cau. Fe fydd yn rhaid i chwi anfon copi wedi ei arwyddo trwy’r post yn ogystal.
Yr uchafswm grant sydd ar gael yw £600. Mae’r cynllun grant yma fel arfer yn ordanysgrifiedig ac o ganlyniad nid oes yna unrhyw sicrwydd y byddwch yn derbyn grant. Noder os gwelwch yn dda nad yw ad-daliadau benthyciadau yn gymwys am grant. Dylech nodi yn ogystal fod dyfodol y cynllun grant yma yn ansicr.
Matrics Sgoria (Ffurflen saesneg yn unig)
CRONFA ALLWEDDOL GWLEDIG
Mae'r cynllun grant hwn wedi cael ei ddatblygu gan y Cynllun Datblygu Gwledig Echel 3 sy'n anelu at amrywiaeth yr economi wledig; gwella ansawdd bywyd mewn cymunedau gwledig ac adnewyddu pentrefi a datblygu. .
Cafodd y Gronfa Allweddol Gwledig ei sefydlu, fel rhan o’r Cynllun Datblygu Gwledig (CDG), i gefnogi gwasanaethau lleol o fewn cymunedau gwledig ac annog cwmnïau lleol i ddod yn gysylltiedig a gwaith adfywio cymunedau trwy weithgaredd cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
Edrychwch ar y linc isod am fwy o fanyllion
Gweler y ddolen i wefan y Comisiwn Ewropeaidd sy'n ymwneud â'r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: (GAEDG)
Wefan Europa (Yn anffodus, nid yw'r wefan hon wedi ei chyfieithu)
Yn dosbarthu grantiau i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol sy'n gweithio o fewn terfynnau yr hen Sir Clwyd.
Grants o hyd at £250 ar gael.
Gweler y cysylltiadau isod i lawrlwytho ffurflen gais a'r meini prawf
Ffurflen Gais Cist Gymunedol Clwyd
Cynllun Grantiau Bach Cyfalaf Sir Ddinbych 2008 - 2011
Bu CGGSDd yn llwyddiannus yn sicrhau arian, dros dair blynedd, o Raglen Cyfleusterau a Gweithgareddau Cymunedol Llywodraeth Cynulliad Cymru i sefydlu cynllun grantiau cyfalaf bychan. Bydd grantiau o hyd at £5,000 ar gael i grwpiau / mudiadau ar gyfer gwariant cyfalaf i hwyluso gweithgareddau sy’n hyrwyddo adfywiad cymunedau.
Am ragor o fanylion cysylltwch ag Emyr Williams
Ymwelwch nawr i gael cymorth a chefnogaeth ymarferol am gyllid cynaliadwy. Ceir gwybodaeth ddefnyddiol am amrywiol opsiynau cyllido, astudiaethau achos, hyfforddiant a ffynonellau o gymorth pellach.
www.sustainablefundingcymru.org.uk
Sefydlwyd Cronfa'r Ddegwm yn 1914 yn dilyn diddymiad yr Eglwys yng Nghymru oddiwrth yr Eglwys yn Lloegr. Rhannwyd yr asedau'n gyfartal ymysg hen Gynghorau Sir Cymru ag fe'u rhannwyd ymhellach rhwng yr Awdurdodau Unedol newydd a sefydlwyd yn 1996.
Mae tua £5,100 y flwyddyn i'w rannu, felly nid yw' bosibl cynnig grantiau sylweddol. Ar gyfartaledd, dyrennir grantiau oddeutu £300 a gellir defnyddio'r arian i brynu eitemau cyfalaf neu gostau rhedeg.
Gwahoddir ceisiadau am gefnogaeth ariannol o'r Ffynhonnell hon gan grwpiau a mudiadau sy'n gweithredu o fewn Sir Ddinbych. Bydd y Pwyllgor Grantiau yn cyfarfod o leiaf bedair gwaith y flwyddyn, a hynny er mwyn sicrhau nad oes raid i grwpiau/mudiadau aros yn rhy hir i glywed os yw eu cais wedi bod yn llwyddiannus.
I lawrlwytho ffurflen gais gweler y cyswllt isod neu am unrhyw gymorth neu gyngor pellach ar gyflwyno cais cysylltwch â:
Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych [CGGSDd]
Canolfan Naylor Leyland, Srtyd y Ffynnon, Rhuthun. LL15 1AF
Ffôn: 01824 702441
E-bost: office@dvsc.co.uk
Criteria Cronfa'r Degwm Sir Ddinbych
Ffurflen Gais Cronfa'r Degwm Sir Ddinbych
Manylion am ffynonellau ariannol - Arian y Loteri, Ymddiriedolaethau Elusennol, Arian o Ewrop, Cronfa Allweddol Sir Ddinbych ayb, Funderfinder (rhaglen gyfrifiadurol i uniaethu cronfeydd ariannol) a chyngor a chymorth i gwblhau ceisiadau.
Cysylltwch â'r Uwch Swyddog Datblygu yn Rhuthun
7. Dod o Hyd i Arian a'i Gael
8. Rheoli Arian
9. Asedau
10. Hyrwyddo a Marchnata
Cysylltwch ag: Uwch Swyddog Datblygu yn Rhuthun
Os yw paratoi cyflogau, gweithio allan treth incwm neu yswiriant cenedlaethol yn rhoi cur pen i chi, gadewch i GGGSDd, am bris rhesymol, drefnu i wneud y paratoadau ar eich rhan.
Rheolwr Cyllid