Search Site
  

Translate This Page
Translate This Page

In Associatioin With
In Associatioin With Cadwyn Clwyd

Cerdyn Cymunedol

 

Busnesau sydd wedi Cofrestru

  • Cyfrifiaduron VFM yn y Rhyl yn cynnig disgownt o 20% ar gostau llafur
  • Darparwyr Deunyddiau Adeiladu Thorncliffe Dyserth yn cynnig disgownt amrywiol ar wahanol ddeunyddiau
  • Gwasanaethau Cyfrifiaduron a Gwybodaeth Boyns, Rhuthun, yn cynnig disgownt o 20% ar gostau llafur ac ymgynghoriaeth a 5% ar gynnyrch (ag eithrio band llydan)
  • Gwasg Helygain Cyf yn cynnig disgown o 10%
  • Gwesty Castell Rhuthun, yn cynnig disgownt o 10% ar brydau bar a phrydau bwydlen a la Carte Bertie’s(ag eithrio diodydd ag alcohol)
  • M J Graphics yn y Rhyl yn cynnig disgown o 10% ar faneri lliw a baneri rholiau
  • "Presents with a Difference" ym Mhrestatyn yn cynnig disgownt o 10%
  • Siop Fferm Rhesgoed, Llanbedr D.C, yn cynnig disgownt o 10% ar bryniant
  • Tafarn Y Griffin, Llanbedr D.C, yn cynnig disgownt o 10% ar brydau bwyd (termau ag amodau’n bodoli)
  • "The Party Shop" ym Mhrestatyn yn cynnig disgown o 10%

pdf Ffurflen Cofrestru Cerdyn Cymunedol (i ddod)

pdf Busnesau sydd wedi cofrestu i'r Cerdyn Cymunedol (i ddod)

 

A fyddai cael cyswllt â chwsmeriaid gyda thros £60miliwn o bwer gwariant o fewn Sir Ddinbych o fudd i’ch busnes, tra’ch bod chi ar yr un pryd yn dangos cefnogaeth i’ch cymuned leol

Ar ran Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych, hoffwn eich gwahodd i fod yn rhan o fenter newydd gyffrous gyda’r bwriad o helpu i hyrwyddo eich cwmni a gwneud eich cynnyrch a’ch gwasanaethau yn fwy gweledig i’r Trydydd Sector (mudiadau gwirfoddol, elusennol, mentrau cymdeithasol, cydweithfeydd a mudiadau cymunedol) o fewn Sir Ddinbych.

Ffeithiau Allweddol:

  • Mae gan y Trydydd Sector yn Sir Ddinbych gyfanswm cyfunol o dros £60miliwn o wariant potensial, ag fe hoffem eithafu’r cyfran sy’n cael ei wario’n lleol.
  • Mae cyfranogiad eich busnes yn rhad ag am ddim, a phan gofrestrwch bydd eich busnes yn cael hysbys ar wefan CGGSDd, a mudiadau Trydydd Sector yn cael eu hannog i ddefnyddio busnesau a restrir, fydd yn rhoi gwasanaeth hysbysebu a marchnata i chi yn rhad ag am ddim.
  • Mae gofyn i chi ymrwymo i ddarparu disgownt neu fanteision sydd ddim fel rheol ar gael i’r cyhoedd yn gyffredinol, gan gymryd i ystyriaeth fod unrhyw wariant gan y Trydydd Sector yn mynd i fod o fudd i gymunedau o fewn Sir Ddinbych.
  • Bydd pob mudiad Trydydd Sector ar restr aelodaeth CGGSDd yn derbyn Cerdyn Cymunedol Sir Ddinbych i’w ddefnyddio fel cerdyn adnabod wrth ymwneud â’ch busnes.
  • Cerdyn Cymunedol Sir Ddinbych fydd eich sicrwydd fod y disgownt neu’r mantais a roddwch yn helpu eich cymuned leol.
  • Pan fyddwch yn cofrestru byddwch yn derbyn sticer i’w arddangos ar eich ffenest i ddangos eich cefnogaeth i Gerdyn Cymunedol Sir Ddinbych a’ch cymuned leol.

Am ragor o fanylion a’r ffurflen gofrestru gweler y daflen amgaeedig, neu os ydych eisiau manylion pellach rhowch alwad i mi.

Mae’r fenter yn rhan o brosiect ehangach a gefnogir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru i alluogi busnesau yn Sir Ddinbych i roi cefnogaeth i’w Cymunedau lleol. Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy am y prosiect cyfan a gweld sut gall helpu eich cymuned leol fod o fudd i’ch busnes, cysylltwch â mi am ragor o wybodaeth.                

Jennifer Rowlands funded_land_col[1].jpg

Swyddog Cyswllt Busnes a’r Trydydd Sector

Ffôn 07795 014 239 neu 01745 369973

 

 

 

Valid XHTML 1.0 Strict Valid CSS